Llygad Y Ddraig

Archebwch Eich Gwyliau​

Dim ond gyda 'Y Gorau o Gymru' y gellir archebu Llygad y Ddraig

Gyda gwely sy’n cylchdroi, ffwrn goed a golygfeydd dros y llyn bydd Llygad y Ddraig yn siŵr o danio eich dychymyg. Dyma enillydd cyfres ‘Cabins in the Wild’ ar Netflix.

Mae Llygad y Ddraig wedi deffro unwaith eto…i olygfa odidog o lyn a chwm coedog ym mherfeddion cefn gwlad y gorllewin. Mae’r caban arobryn hwn, a oedd yn rhan o gyfres ‘Cabins in the Wild’ ar Netflix, yn cynnig cyfle hollol unigryw i chi fwynhau llety a fydd yn agoriad llygad! Gyda’i deils o ddur gloyw, tebyg i gennau draig, bydd y llety glampio moethus hwn yn siŵr o danio eich dychymyg.

Dewch i ymlacio ar y gwely mawr, cysurus sy’n cylchdroi ac i fwynhau golygfa odidog o dirwedd hardd Cymru (ddydd a nos) o’ch patio neu drwy’r ‘llygad’ gwydr enfawr sy’n ymestyn o’r nenfwd i’r llawr. Fel arall, gallwch osgoi tywydd garw drwy swatio yng ngwres y ffwrn goed a rhwng y waliau sydd wedi’u hinswleiddio â gwlân dafad. Ar ddiwedd y dydd, beth am gael cawod dwym yn yr ystafell wlyb cyn troi’r gwely o gwmpas a chau llygad y ddraig am y nos.

Mae digon i’w wneud ar y safle – ewch i bysgota neu i ymlacio mewn cwch neu ganŵ ar y llyn neu mae croeso i chi ddefnyddio’r twba twym, yr ystafell gemau a’r ffwrn bitsas, sy’n gyfleusterau a rennir.

Argaeledd

Ar gael
Dim ar gael

Gwybodaeth Bellach

Amser cyrraedd: 16:00
Amser gadael: 10:00

Cyfleusterau babanod
ar gael.

Parcio am ddim

Dim Ysmygu

Oes gennych gwestiwn am ein llety?