Bythynnod a Tai Twt
Ger Cei Newydd ac Aberaeron, Gorllewin Cymru
Mae ein fferm mewn lleoliad gwledig tawel ar gyrion pentref Mydroilyn, 5 milltir o Aberaeron a Cheinewydd sydd ynghanol arfordir hardd Bae Ceredigion. Mae gennym ddau fwthyn gwyliau moethus yn yr hen feudy, sy’n llawn cymeriad ac sydd wedi’u hadnewyddu yn fendigedig. Yn ein gwersyll glampio mae yna dri phod clyd a dau gaban arobryn sy’n edrych dros ein llyn preifat, lle gallwch fwynhau golygfeydd godidog am filltiroedd lawer.
Twb poeth awyr agored
Maes chwarae
Ardal barbeciw a phwll tân
Popty pitsa
Pysgota
Llyn cychod
Cawod trydan
Y Fferm
Arwel yw’r bedwaredd genhedlaeth o’r teulu i amaethu ar ein fferm ddefaid draddodiadol yng Nghwmcoedog.
Mae amser wyna rhwng mis Chwefror a mis Ebrill yn gyfnod eithriadol o brysur bob blwyddyn, ac rydym yn mwynhau rhannu’r profiad â’n hymwelwyr. Dewch i wylio’r ŵyn bach yn cael eu geni, neu eisteddwch yn ôl ar eich patio i fwynhau eu gweld yn chwarae ac yn prancio yn y caeau cyfagos.
Mae gennym ddau asyn cyfeillgar hefyd o’r enw Seren a Siani, sy’n mwynhau cael eu bwydo a’u sbwylio gan ein hymwelwyr.
