Llety

Gallwch ddisgwyl croeso cynnes Cymreig yng Nghwmcoedog – dyma fan delfrydol i fwynhau gwyliau hamddenol o fewn cyrraedd yn hawdd i lan y môr, 
lle mae digon o weithgareddau i ddifyrru’r plant (a’u rhieni!).

Bythynnod Moethus

Mae’r bythynnod gwyliau yn yr hen feudy sydd wedi’i drawsnewid yn ddau fwthyn – Y Dderwen a’r Onnen – sy’n llawn cymeriad ac sy’n cynnwys llawer o nodweddion gwreiddiol yr adeilad.

Tai Twt

Mae ein safle glampio, ar lethr cysgodol sy’n edrych dros y llyn a’r cwm coedog, yn gartref i dri phod clyd o’r enw Nyth y Barcud, Nyth yr Eos a Nyth y Wennol.

Caban Y Nen

Mae Caban y Nen yn llety clyd, unigryw lle gallwch edmygu awyr wych y nos yn y gorllewin o’ch soffa neu’ch gwely cysurus o flaen y tân.

Llygad Y Ddraig

Mae Llygad y Ddraig wedi deffro unwaith eto…i olygfa odidog o lyn a chwm coedog ym mherfeddion cefn gwlad y gorllewin. Mae’r caban arobryn hwn, a oedd yn rhan o gyfres ‘Cabins in the Wild’ ar Netflix, yn cynnig cyfle hollol unigryw i chi fwynhau llety a fydd yn agoriad llygad!

Oes gennych gwestiwn am ein llety?