Pethau i'w gwneud

Mae’r awyr iach, y rhyddid a’r anturiaethau sydd i’w cael ym Mae Ceredigion yn golygu ei fod yn lle perffaith i enaid gael llonydd neu i’r teulu gael gwyliau difyr a phrysur. Ewch ar daith ar gwch i weld y dolffiniaid, ewch am dro ar hyd llwybr yr arfordir, ewch i syrffio’r tonnau neu ewch gyda’r teulu i fwynhau ein traethau Baner Las. Fel arall, ewch tua’r mynyddoedd i weld y llynnoedd a’r rhaeadrau, y trefi marchnad a’r dirwedd naturiol sy’n llawn rhamant.

Traethau

Dewch i fwynhau arfordir Ceredigion ar ei orau – y traethau sy’n ennill statws Baner Las, Gwobrau Glan Môr a Gwobrau Arfordir Glas yn gyson – yn ogystal â’r trefi a’r pentrefi glan môr sy’n denu cymaint o deuluoedd. Mae yma hefyd draethau bach hardd a chudd nad oes modd eu cyrraedd ond ar droed neu ar gwch.

Cerdded

Mae gan Geredigion dros 2,500 cilomedr o lwybrau ar wahân i lwybr yr arfordir sy’n 60 milltir o hyd. Bydd gennych ddigon o ddewis, felly, p’un a ydych am aros yn lleol, am fynd am dro o gwmpas y dref neu am ddilyn llwybrau hirach ar draws ardaloedd o gefn gwlad.

Mordeithiau Bywyd Gwyllt

Mae dyfroedd Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion yn gartref i boblogaeth fwyaf Ewrop o ddolffiniaid trwyn potel. Gallwch weld y creaduriaid hyn yn eu cynefin naturiol o’r lan, neu drwy fynd ar fordaith i weld bywyd gwyllt y Bae.

Bwytai a Bariau

Mae Cwmcoedog tua 10 munud yn y car o drefi glan môr Aberaeron a Cheinewydd lle ceir amrywiaeth o fwytai ardderchog mewn lleoliadau braf, sy’n gweini cynnyrch lleol ffres.

Oes gennych gwestiwn am ein llety?