Caban Y Nen
Archebwch Eich Gwyliau
- 2 Person
- Ystafell Ymolchi
- Golau a Thrydan
- Gwres
Mae Caban y Nen yn llety clyd, unigryw lle gallwch edmygu awyr wych y nos yn y gorllewin o’ch soffa neu’ch gwely cysurus o flaen y tân.
Mae Caban y Nen yn ei ôl! Mae’r caban trawiadol hwn, a oedd yn rhan o gyfres ddogfen ‘Cabins in the Wild’ ar Netflix, wedi’i adnewyddu ac yn edrych yn well nag erioed. Ei fwriad yw bod yn llety clyd sydd hefyd yn arsyllfa unigryw, ac mae ei gartref newydd wrth ymyl llyn yn y gorllewin yn fan perffaith i edmygu awyr wych y nos. Mae hefyd yn lleoliad hyfryd i grwydro o amgylch ardal Bae Ceredigion a’i hamrywiaeth eang o atyniadau.
Cymru yw’r wlad sydd â’r ganran uchaf yn y byd o ‘Awyr Dywyll Ryngwladol’, felly mae’n un o’r mannau gorau yn y byd, heb os, i syllu ar y sêr. Yn ogystal â’r ffenestri ar lefel eich llygaid sydd o gwmpas y caban ysbrydoledig hwn, gallwch hefyd agor y to a’r drws gwydr sy’n arwain i’ch patio personol i fwynhau golygfeydd o gefn gwlad a’r llyn lle gallwch rwyfo, canŵio a physgota. Mae croeso hefyd i chi ddefnyddio’r twba twym, yr ystafell gemau a’r ffwrn bitsas a rennir ar y safle. Does yna’r un ffordd well o fwynhau harddwch Cymru.
Argaeledd
Gwybodaeth Bellach
Amser cyrraedd: 16:00
Amser gadael: 10:00
Cyfleusterau babanod ar gael.
Parcio am ddim
Dim Ysmygu