Y Fferm
Arwel yw’r bedwaredd genhedlaeth o’r teulu i amaethu ar ein fferm ddefaid draddodiadol yng Nghwmcoedog.
Mae amser wyna rhwng mis Chwefror a mis Ebrill yn gyfnod eithriadol o brysur bob blwyddyn, ac rydym yn mwynhau rhannu’r profiad â’n hymwelwyr. Dewch i wylio’r ŵyn bach yn cael eu geni, neu eisteddwch yn ôl ar eich patio i fwynhau eu gweld yn chwarae ac yn prancio yn y caeau cyfagos.
Mae gennym ddau asyn cyfeillgar hefyd o’r enw Seren a Siani, sy’n mwynhau cael eu bwydo a’u sbwylio gan ein hymwelwyr.
Rydym yn gofalu am wartheg ifanc yn adeiladau’r fferm yn ystod y gaeaf.
Mae digon o gyfleoedd o amgylch y fferm ac yn yr ardal gyfagos i gerdded a mwynhau byd natur ar ei orau – yr adar yn canu yn y coed a’r cloddiau, y barcutiaid yn hofran yn yr awel uwchben y fferm, y gwyddau Canada yn magu eu cywion ar yr ynys fach ynghanol y llyn, a thylluanod a llwynogod i’w clywed dan yr awyr dywyll sy’n frith o sêr.