Cyfleusterau

Mae digon o bethau i’w gwneud ar ein safle, o wylio’r machlud dros y llyn o’r twba twym i wylio eich plant yn chwarae’n hapus
yn yr ardal chwarae awyr agored, neu beth am goginio gwledd yn ein ffwrn bitsas?

Twba twym awyr agored

Mae’r twba twym awyr agored mewn ardal breifat sydd ag un o’r golygfeydd gorau o gefn gwlad Ceredigion. Dyma’r lle perffaith i ymlacio a hamddena yn ystod eich gwyliau gyda ni.

Mae hwn yn gyfleuster a rennir sydd ar gael am ddim i bob un o’n gwesteion.

Ardal fwyta gyffredin â ffwrn bitsas

Mae’r ardal fwyta gyffredin sydd dan do ar ein safle glampio yn lle perffaith i fwynhau pryd o fwyd, beth bynnag fo’r tywydd. Yma, gallwch fwynhau eich bwyd a’ch hoff ddiferyn yng nghanol harddwch a llonyddwch cefn gwlad Ceredigion.

Mae hefyd yn lle gwych i gymdeithasu â hen ffrindiau a chwrdd â ffrindiau newydd wrth baratoi pitsas cartref. Bydd y gwresogyddion trydan uwchben yn eich cadw’n glyd ac yn gynnes, hyd yn oed yn ystod misoedd y gaeaf.

Llyn pysgota a chychod

Mae’r llyn yn gartref i beth wmbredd o fywyd gwyllt – gwyddau, adar a physgod. Mae brithyllod, gan gynnwys rhai seithliw, a rhuddbysgod llai o faint i’w cael yn y llyn ac mae croeso i bob un o’n gwesteion bysgota yno am ddim ag unrhyw abwyd, cyhyd â’u bod yn rhoi’r pysgod a gaiff eu dal yn ôl yn y llyn.

Mae gennym dri chaiac a dau gwch rhwyfo bach i chi eu defnyddio fel y mynnwch, ynghyd â siacedi achub. Fel arall, mae croeso i chi ddod â’ch siaced a’ch padlfwrdd eich hun i’w defnyddio ar y llyn.

Maes Chwarae

Mae digon o weithgareddau ar gael yma i ddifyrru plant, o’n sleidiau a’n siglen a’n ffrâm ddringo i’r trampolin. Mae goliau pêl-droed ar gae ein safle glampio, ac mae yno ddigon o le i hedfan barcud neu gymryd rhan mewn campau tîm megis badminton, criced a rownderi.

Ystafell Gemau

Mae croeso i chi ddefnyddio’r ystafell golchi dillad / ystafell gemau a rennir, sy’n cynnwys peiriant golchi / sychu dillad, rhewgell fawr, ardal â sinc, ardal sychu ar gyfer eich esgidiau a’ch cotiau, a lle storio diogel ar gyfer eich beiciau.

Mae hon hefyd yn ystafell gemau sy’n cynnwys bwrdd dartiau, bwrdd pŵl a chyfleusterau tennis bwrdd. Gall fod yn ystafell gyffredin / ystafell gyfarfod i gerddwyr a beicwyr, lle gallant drafod eu cynlluniau. Boed law neu hindda, mae gan Gwmcoedog ddigon o gyfleusterau a gweithgareddau difyr i’r teulu cyfan eu mwynhau.

Oes gennych gwestiwn am ein llety?